Showing posts with label advices & queries. Show all posts
Showing posts with label advices & queries. Show all posts

Friday, 1 November 2019

Cynghorion a holiadau // Advices & queries 20/10/2019

22) Perchwch yr amrywiaeth eang sydd yn ein mysg yn ein bywydau a’n cysylltiadau. Gochelwch rhag ffurfio barn ragfarnllyd am deithiau bywyd pobl eraill. A ydych yn meithrin yr ysbryd o gyd-ddyheu ac o faddeuant a fynnir gennym, a ninnau’n ddisgyblion? Cofiwch fod pob un ohonom yn unigryw, yn werthfawr, yn blentyn i Dduw.




22) Respect the wide diversity among us in our lives and relationships. Refrain from making prejudiced judgments about the life journeys of others. Do you foster the spirit of mutual understanding and forgiveness which our discipleship asks of us? Remember that each one of us is unique, precious, a child of God.

CROESO I BAWB WELCOME TO ALL: OUR MEETING WHEN & WHERE LINK

Thursday, 29 August 2019

Cynghorion a holiadau // Advices & queries 25/08/2019

12.When you are preoccupied and distracted in meeting let wayward and disturbing thoughts give way quietly to your awareness of God’s presence among us and in the world. Receive the vocal ministry of others in a tender and creative spirit. Reach for the meaning deep within it, recognising that even if it is not God’s word for you, it may be so for others. Remember that we all share responsibility for the meeting for worship whether our ministry is in silence or through the spoken word.


12.Pan fyddoch synfyfyriol neu ddryslyd yn y cwrdd addoli, gadewch i feddyliau cyndyn neu anesmwyth ymollwng yn dawel i’r ymwybod o bresenoldeb Duw yn ein mysg ac yn y byd. Derbyniwch weinidogaeth lafar eraill mewn ysbryd addfwyn a chreadigol. Estynnwch am yr ystyr sy’n ddwfn ymhlyg ynddo. Hyd yn oed os nad yw’n air Duw i chwi, gall fod felly i eraill. Cofier ein bod oll yn rhannu cyfrifoldeb am y cwrdd addoli, pa un bynnag ai mewn distawrwydd neu ynteu trwy’r gair llafar y bo’n gweinidogaeth.

Wednesday, 21 August 2019

Cynghorion a holiadau // Advices & queries 18/08/2019

10. Be honest with yourself. What unpalatable truths might you be evading? When you recognise your shortcomings, do not let that discourage you. In worship together we can find the assurance of God’s love and the strength to go on with renewed courage.


10. Byddwch onest â chwi’ch hunan. Pa wirioneddau diflas y dichon eich bod yn eu hosgoi? O adnabod eich ffaeleddau, na foed i hynny eich digalonni. Mewn cydaddoli, gallwn ganfod y sicrwydd o gariad Duw a chanfod o’r newydd y dewrder i ddal ati.


Monday, 12 August 2019

Cynghorion a holiadau // Advices & queries 11/08/2019


10: Come regularly to meeting for worship even when you are angry, depressed, tired or spiritually cold. In the silence ask for and accept the prayerful support of others joined with you in worship. Try to find a spiritual wholeness which encompasses suffering as well as thankfulness and joy. Prayer, springing from a deep place in the heart, may bring healing and unity as nothing else can. Let meeting for worship nourish your whole life.


10. Deuwch yn gyson i’r cwrdd addoli, hyd yn oed pan fyddoch ddig, neu’n isel-ysbryd, neu’n flinedig, neu’n oer yn ysbrydol. Yn y distawrwydd, ceisiwch a derbyniwch gefnogaeth weddigar eich cyd-addolwyr. Ceisiwch ganfod cyfanrwydd ysbrydol sy’n cwmpasu dioddefaint yn ogystal â diolchgarwch a llawenydd. Yn anad unpeth arall fe all gweddi sy’n tarddu o ddwfn y galon ddwyn gwellhad ac undod. Gadewch i’r cwrdd addoli faethu eich holl fywyd.

Sunday, 19 August 2018

Advices & Queries / Cynghorion a Holiadau 12 & 19/08/18

34. Remember your responsibilities as a citizen for the conduct of local, national, and international affairs. Do not shrink from the time and effort your involvement may demand.

Cofiwch eich cyfrifoldeb fel dinesydd am reolaeth materion lleol, cenedlaethol a rhyng-genedlaethol. Peidiwch ag arbed yr amser a’r ymdrech y gall eich ymrwymiad ei hawlio.

35. Respect the laws of the state but let your first loyalty be to God’s purposes. If you feel impelled by strong conviction to break the law, search your conscience deeply. Ask your meeting for the prayerful support which will give you strength as a right way becomes clear.

Perchwch ddeddfau’r wladwriaeth ond boed eich teyrngarwch pennaf i fwriadau Duw. Os cymhellir chwi gan argyhoeddiad cryf i dorri’r ddeddf, chwiliwch eich cydwybod i’w ddyfnderau. Gofynnwch i’ch cwrdd am y gefnogaeth weddigar a’ch nertha wrth i’r llwybr cywir agor o’ch blaen.

Friday, 10 August 2018

Advices & Queries / Cynghorion a Holiadau 29/07/18 & 05/08/18


31.We are called to live ‘in the virtue of that life and power that takes away the occasion of all wars’. Do you faithfully maintain our testimony that war and the preparation for war are inconsistent with the spirit of Christ? Search out whatever in your own way of life may contain the seeds of war. Stand firm in our testimony, even when others commit or prepare to commit acts of violence, yet always remember that they too are children of God.
Gelwir arnom i fyw ‘yn rhinwedd y bywyd a’r gallu sy’n symud achos rhyfeloedd’. A ydych yn cynnal yn ffyddlon ein tystiolaeth fod rhyfel, a pharatoi am ryfel, yn anghyson ag ysbryd Crist? Chwiliwch yn eich ffordd o fyw am unrhyw arwydd o hadau rhyfel. Sefwch yn gadarn yn ein tystiolaeth, hyd yn oed pan fo eraill yn cyflawni neu’n paratoi i gyflawni gweithredoedd o drais; ond cofiwch eu bod hwythau hefyd yn blant i Dduw.

32.Bring into God’s light those emotions, attitudes and prejudices in yourself which lie at the root of destructive conflict, acknowledging your need for forgiveness and grace. In what ways are you involved in the work of reconciliation between individuals, groups and nations?
Dygwch i oleuni Duw yr emosiynau, yr agweddau, y rhagfarnau hynny ynoch eich hunan sydd wrth wraidd gwrthdaro dinistriol, gan gydnabod fod arnoch angen maddeuant a gras. Ym mha ffyrdd yr ydych yn llafurio i gymodi rhwng unigolion a grwpiau a chenhedloedd?


Sunday, 11 March 2018

Today's reading 11/03/2018

Advices & Queries 18

How can we make the meeting a community in which each person is accepted and nurtured, and strangers are welcome? Seek to know one another in the things which are eternal, bear the burden of each other’s failings and pray for one another. As we enter with tender sympathy into the joys and sorrows of each other’s lives, ready to give help and to receive it, our meeting can be a channel for God’s love and forgiveness.

Cynghorion a holiadau 18

Pa fodd y gallwn wneud y cwrdd yn gymuned lle caiff pob person ei dderbyn a’i faethu, a lle caiff dieithriaid groeso? Ceisiwch adnabod eich gilydd yn y pethau tragwyddol; dygwch faich methiannau’ch gilydd a gweddïwch bawb dros eich gilydd. Wrth i ni gyfranogi mewn tynerwch o lawenydd a thrallod bywyd beunyddiol ein gilydd, yn barod i roddi help ac i’w dderbyn, gall ein cwrdd fod yn gyfrwng i gariad a maddeuant Duw.


image: a crocus today at the Bloomfield House Community Centre

Sunday, 18 February 2018

Today's reading 18/02/2018

Advices & Queries 12
When you are preoccupied and distracted in meeting let wayward and disturbing thoughts give way quietly to your awareness of God’s presence among us and in the world. Receive the vocal ministry of others in a tender and creative spirit. Reach for the meaning deep within it, recognising that even if it is not God’s word for you, it may be so for others. Remember that we all share responsibility for the meeting for worship whether our ministry is in silence or through the spoken word.

Cynghorion a holiadau 12
Pan fyddoch synfyfyriol neu ddryslyd yn y cwrdd addoli, gadewch i feddyliau cyndyn neu anesmwyth ymollwng yn dawel i’r ymwybod o bresenoldeb Duw yn ein mysg ac yn y byd. Derbyniwch weinidogaeth lafar eraill mewn ysbryd addfwyn a chreadigol. Estynnwch am yr ystyr sy’n ddwfn ymhlyg ynddo. Hyd yn oed os nad yw’n air Duw i chwi, gall fod felly i eraill. Cofier ein bod oll yn rhannu cyfrifoldeb am y cwrdd addoli, pa un bynnag ai mewn distawrwydd neu ynteu trwy’r gair llafar y bo’n gweinidogaeth.