Sunday, 18 February 2018

Today's reading 18/02/2018

Advices & Queries 12
When you are preoccupied and distracted in meeting let wayward and disturbing thoughts give way quietly to your awareness of God’s presence among us and in the world. Receive the vocal ministry of others in a tender and creative spirit. Reach for the meaning deep within it, recognising that even if it is not God’s word for you, it may be so for others. Remember that we all share responsibility for the meeting for worship whether our ministry is in silence or through the spoken word.

Cynghorion a holiadau 12
Pan fyddoch synfyfyriol neu ddryslyd yn y cwrdd addoli, gadewch i feddyliau cyndyn neu anesmwyth ymollwng yn dawel i’r ymwybod o bresenoldeb Duw yn ein mysg ac yn y byd. Derbyniwch weinidogaeth lafar eraill mewn ysbryd addfwyn a chreadigol. Estynnwch am yr ystyr sy’n ddwfn ymhlyg ynddo. Hyd yn oed os nad yw’n air Duw i chwi, gall fod felly i eraill. Cofier ein bod oll yn rhannu cyfrifoldeb am y cwrdd addoli, pa un bynnag ai mewn distawrwydd neu ynteu trwy’r gair llafar y bo’n gweinidogaeth.

No comments:

Post a Comment