Showing posts with label 10. Show all posts
Showing posts with label 10. Show all posts

Wednesday, 21 August 2019

Cynghorion a holiadau // Advices & queries 18/08/2019

10. Be honest with yourself. What unpalatable truths might you be evading? When you recognise your shortcomings, do not let that discourage you. In worship together we can find the assurance of God’s love and the strength to go on with renewed courage.


10. Byddwch onest â chwi’ch hunan. Pa wirioneddau diflas y dichon eich bod yn eu hosgoi? O adnabod eich ffaeleddau, na foed i hynny eich digalonni. Mewn cydaddoli, gallwn ganfod y sicrwydd o gariad Duw a chanfod o’r newydd y dewrder i ddal ati.


Monday, 12 August 2019

Cynghorion a holiadau // Advices & queries 11/08/2019


10: Come regularly to meeting for worship even when you are angry, depressed, tired or spiritually cold. In the silence ask for and accept the prayerful support of others joined with you in worship. Try to find a spiritual wholeness which encompasses suffering as well as thankfulness and joy. Prayer, springing from a deep place in the heart, may bring healing and unity as nothing else can. Let meeting for worship nourish your whole life.


10. Deuwch yn gyson i’r cwrdd addoli, hyd yn oed pan fyddoch ddig, neu’n isel-ysbryd, neu’n flinedig, neu’n oer yn ysbrydol. Yn y distawrwydd, ceisiwch a derbyniwch gefnogaeth weddigar eich cyd-addolwyr. Ceisiwch ganfod cyfanrwydd ysbrydol sy’n cwmpasu dioddefaint yn ogystal â diolchgarwch a llawenydd. Yn anad unpeth arall fe all gweddi sy’n tarddu o ddwfn y galon ddwyn gwellhad ac undod. Gadewch i’r cwrdd addoli faethu eich holl fywyd.