Monday 14 May 2018

Advices & Queries / Cynghorion a Holiadau 29/4; 6/5 & 13/5


30.Are you able to contemplate your death and the death of those closest to you? Accepting the fact of death, we are freed to live more fully. In bereavement, give yourself time to grieve. When others mourn, let your love embrace them.

A ydych yn abl i ystyried eich marwolaeth a marwolaeth eich anwyliaid? O dderbyn marwolaeth fel ffaith, fe’n rhyddheir i fyw yn llawnach. Mewn profedigaeth, caniatewch i chwi’ch hunan amser i alaru. Pan fo eraill yn galaru, gadewch i’ch cariad eu cofleidio.

31.We are called to live ‘in the virtue of that life and power that takes away the occasion of all wars’. Do you faithfully maintain our testimony that war and the preparation for war are inconsistent with the spirit of Christ? Search out whatever in your own way of life may contain the seeds of war. Stand firm in our testimony, even when others commit or prepare to commit acts of violence, yet always remember that they too are children of God.

Gelwir arnom i fyw ‘yn rhinwedd y bywyd a’r gallu sy’n symud achos rhyfeloedd’. A ydych yn cynnal yn ffyddlon ein tystiolaeth fod rhyfel, a pharatoi am ryfel, yn anghyson ag ysbryd Crist? Chwiliwch yn eich ffordd o fyw am unrhyw arwydd o hadau rhyfel. Sefwch yn gadarn yn ein tystiolaeth, hyd yn oed pan fo eraill yn cyflawni neu’n paratoi i gyflawni gweithredoedd o drais; ond cofiwch eu bod hwythau hefyd yn blant i Dduw.

32. Bring into God’s light those emotions, attitudes and prejudices in yourself which lie at the root of destructive conflict, acknowledging your need for forgiveness and grace. In what ways are you involved in the work of reconciliation between individuals, groups and nations?

Dygwch i oleuni Duw yr emosiynau, yr agweddau, y rhagfarnau hynny ynoch eich hunan sydd wrth wraidd gwrthdaro dinistriol, gan gydnabod fod arnoch angen maddeuant a gras. Ym mha ffyrdd yr ydych yn llafurio i gymodi rhwng unigolion a grwpiau a chenhedloedd?

No comments:

Post a Comment